Amdanaf

HK1Mae Daniel Aguirre Evans yn weinyddwr celfyddydol profiadol a brwdfrydig wedi lleoli yng Nghaerdydd, Cymru.

Mae swyddi blaenorol wedi darparu Daniel gyda meistrolaeth amlwg ac eang o agweddau cyffredin gweinyddiaeth gelfyddydol – ond mae ganddo gryfderau a phrofiadau penodol ym meysydd cynllunio artistig, cynhyrchu, rheolaeth gerddorfaol, dyletswydd cyngherddau, cyd-drefniant artistiaid a cydlyniant phrosiectau.

Yn ogystal, dros y blynyddoedd diweddar mae wedi datblygu dealltwriaeth a phrofiad eang ym myd uwchdeitlau opera a gwaith capsiynau theatrig, ynghyd a’i phortffolio o waith gweinyddiaeth gelfyddydol.

Mae Daniel yn bresennol yn edrych am gyfleoedd llawrydd newydd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Os oes gennych brosiect neu rôl benodol i gyflwyno, neu os hoffech drafod sut all sgiliau a phrofiadau Daniel cynorthwyo eich prosiect neu sefydliad, plîs byddwch mewn cysylltiad.

Ers Gwanwyn 2022, mae Daniel wedi dilyn gyrfa ffreslau brysur yn y sector celfyddydau, gan weithio i amrywiaeth eang o sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt. Mae ei waith wedi cynnwys cyfres o swyddi tymhorol / dros dro gan gynnwys Prosiectau Arbennig a Cynhyrchydd Cynorthwyol ar gyfer Gŵyl Bro Morgannwg yn Haf 2022, Rheolwr Cerddorfaol Dros Dro ar gyfer City of London Sinfonia yn ystod tymor Opera Holland Park yn Haf 2023, Cydlynydd Cynhyrchu / Rheolwr Cerddorfaol ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Rhyngwladol Llangollen yn Haf 2024, yn ogystal â dau gyfnod fel Swyddog Cynllunio Celfyddydol Dros Dro ar gyfer Opera Genedlaethol Cymru yn Hydref 2023 ac eto o Hydref 2024-Haf 2025. Yn Hydref 2025, cymerodd rôl newydd fel Gweinyddwr Yr Ŵyl gyda Gŵyl Beaumaris Festival yng Nghogledd Cymru.

Yn ogystal â’i waith gweinyddu celfyddydau, mae Daniel hefyd wedi datblygu portffolio eang o waith is-deitlau opera ac is-deitlau theatrig, gan gynnwys cydweithrediad helaeth gyda Opera Genedlaethol Cymru, sawl prosiect gyda’r City of Birmingham Symphony Orchestra, comisiwn perffaith byd cyntaf gyda Birmingham Contemporary Music Group / Opera 21, a pherfformiadau ar gyfer Garsington Opera. Mae hefyd wedi gweithio ar is-deitlau theatr Gymraeg gan gynnwys Anthem ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru a Pijin / Pigeon ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru, yn ogystal â dosbarthiadau meistr myfyrwyr, hyfforddiant a mentora ar is-deitlau opera gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Graddiodd Daniel o Brifysgol Manceinion yng Ngorffennaf 2013 gyda BSocSci Politics & International Relations (Hons); gan gynnwys marc Dosbarth 1af yn ei draethawd “The United Nations Security Council: A Gordian Knot and the Politics of Reform”.

Wedi graddio, symudodd Daniel i Gaerdydd i lansio gyrfa yn y celfyddydau, gan gychwyn gyda swyddi intern gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac wedyn gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Ymunodd a thîm rheolaeth gerddorfaol WNO yn Rhagfyr 2013 fel Ysgrifennydd i Reolaeth Y Corws a’r Gerddorfa (Cyfnod Mamolaeth).

WMCYn Awst 2014, yn dilyn ymadawiad Rheolwr Cerddorfaol WNO, newidiodd rôl Daniel i Weinyddwr Y Gerddorfa. Ymysg uchafbwyntiau’r cyfnod cyntaf yma gyda WNO bu Cyngerdd Flwyddyn Newydd yn Dubai, yn ogystal â darganfod sgôr Puccini i’r opera Manon Lescaut.

Yng Ngwanwyn 2015, symudodd Daniel unwaith eto, y tro hwn ar draws Mor Iwerddon i gychwyn yn swydd Rheolwr Cynllunio & Chydlynydd Artistiaid gyda’r Ulster Orchestra. Uchafbwynt o’r cyfnod hwn yn Belfast oedd cyfnod y dathliadau penblwydd hanner-cant y gerddorfa, gan gynnwys 50 Cyngerdd Mewn Diwrnod ar hyd a lled y ddinas, a fu yng nghalon y cynllunio anhygoel.

Yn Awst 2017 cafodd ei dynnu yn nol i’w gartref ysbrydol yng Nghaerdydd, i’r swydd Rheolwr Cynorthwyol Y Gerddorfa a Chyngherddau gydag Opera Cenedlaethol Cymru unwaith yn rhagor. Ymysg uchafbwyntiau’r ail gyfnod gyda WNO fu teithiau dramor cofiadwy i’r Hong Kong International Arts Festival a hefyd i’r Janáček Brno Festival.

IMG_20190729_212940Ym Mai 2019, symudodd Daniel i Swydd Efrog, i gychwyn yn rôl Rheolwr Y Gerddorfa gydag Opera North. Uchafbwyntiau o’i gyfnod yn Leeds fu perfformiadau o Duke Bluebeard’s Castle gan Bartók yn Neuaddau Dre Huddersfield a Leeds, yn ogystal a Chyfres Haf Millennium Square.

TCM ExamsGyda chychwyn y pandemig, symudodd Daniel yn agosach i’w bro mebyd gyda’i swydd diweddara fel Rheolwr Gweithrediadau a Datblygiad Busnes Cerddoriaeth gyda Cherddoriaeth Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug, Gogledd Cymru. Ar ôl gyrfa yn gweithio ar ben proffesiynol y celfyddydau, roedd Daniel wrth ei fodd i helpu sefydlu’r hen Wasanaeth Gerdd Sir Y Fflint i’w cartref newydd, a helpu llywio addysg beripatetig gerddorol lleol drwy gyfnod heriol.

Basses BelfastDaw yn wreiddiol o Wrecsam, Gogledd Cymru ac yn gymysgedd unigryw o etifeddiaeth Cymraeg, Mecsicanaidd ac Americanaidd. Mae hefyd yn chwaraewr bas dwbl, ac cewch ei weld yn perfformio yn aml ar hyd a lled Cymru gyda grwpiau amatur gan gynnwys gyda Wrexham Symphony Orchestra, Chester Philharmonic Orchestra, City of Cardiff Symphony Orchestra a Birmingham Philharmonic Orchestra.

Bu ei brofiadau drwy’r strwythur pyramid ieuenctid gan gynnwys fel Pennaeth Adran Bas Dwbl gyda’r Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, ac fel Rheolwr Rhaglenni gyda Chymdeithas Cerdd y brifysgol yn bwysig iawn i’w osod ar yrfa gelfyddydol, yn hytrach nag i’r gwasanaeth diplomatig!

Wedi mwynhau’r fraint o gael gwersi offerynnol peripatetig rhad ac am ddim o’i wasanaeth gerdd sir leol yn Wrecsam, o 11-16 mlwydd oed, mae’n frwdfrydig yn ei ymrwymiad i’r egwyddor o ddarparu cyfleoedd cerddorol offerynnol am ddim o fewn ysgolion i bob plentyn, o bob cefndir, a’r rôl gadarnhaol y gall y celfyddydau ei chwarae mewn bywydau pobl ifanc.

Er mwyn hynny, cyd-sylfaennodd Camerata Gogledd Cymru ym Hydref 2013, i godi arian i barhau â darpariaeth cerddoriaeth ieuenctid ledled Cymru. Yn ystod 7 mlynedd o weithgaredd, llwyddasant i roddi dros £2,500 i gyrff cerddoriaeth ieuenctid lleol a chenedlaethol.

WMUN Melbourne - CopyOs fydd rhaid iddo wneud rhywbeth arall gyda’i fywyd, bysai un ai fel swyddog diplomatig i’r Cenhedloedd Unedig (gweler llun o Daniel fel cynrychiolydd myfyriol i gynhadledd World Model UN tra yn brifysgol!) neu fel chwaraewr bas dwbl proffesiynol mewn cerddorfa gyda rhaglen gyson o weithiau Mahler a Richard Strauss.

Oddi wrth ei waith, mae Daniel yn ddilynwr cyson a brwdfrydig o dîm rygbi Cymru yn ogystal â thîm criced Lloegr (+Chymru!). Mae’r ddau ddim yn rheolaidd yn profi i fod yn brawf goddefaint a llawenydd annisgwyl! Pan nad ar ddyletswydd, mae hefyd yn mynychu cyngherddau, sioeau opera a gigs yn aml iawn, ac yn 2024 roedd ymysg y 0.05% o wrandawyr mwyaf rheolaidd Puccini ledled y byd yn ôl data Spotify!

cerddoriaeth yw ei angerdd parhaol

View Daniel Aguirre Evans's profile on LinkedIn